Just dropping by to say Hi and see what you’re up to and how you are doing.
As always, wishing you well. Stay positive, productive & purpose driven.
Peace
Michael
It is the Spencer McGarry Season Album Launch this Wednesday in Clwb Ifor Bach in Cardiff (I play Bass in this band)
I, Sweet Baboo, am then playing in Northampton this Saturday, then in Caernarfon (North Wales) week Friday and Llanfrothen (North Wales) a week Staurday
If this doesn't break your computer please spread the vibes of love and tell your friends.
dyma adolygiad o albym yucatan yn y selar YUCATAN YUCATAN SLACYR
Nid rhyw ego am newid y byd, nid ychwaith rhyw Gymro naïf ifanc yn dyheu am lwyddiant byd eang. Na, dyma Dilwyn Llwyd yn agor clwyfau ei galon yn gyhoeddus ac yn caniatáu i ni wrando a mwynhau dolefau ei enaid. Nid caneuon pop i gael dawns a charu sydd yma, ond rhyfeddodau pleth o gerddoriaeth i leddfu anhunedd ac i dawelu’r ysbryd. Daw “Y Gwacter” a’i rhythmau trip hop isel yn gefndir i gyrn a ffidlau swynol, ond yno hefyd mae’r gitâr a’r llais ymylol ganolog ymron yn berffaith. Rhyw sibrwd pruddglwyfus a geir gan Dilwyn fel rheol, nid y felan glasurol, ond rhyw gwyn megis Bonnie Prince Billy yn canu am dywyllwch yr oes. Rhaid rhyfeddu at wneuthuriad celfydd y caneuon. Ystyriwch recordiau cynharaf Bright Eyes ac yna rhoi aeddfedrwydd melfedaidd i’w lleddfu, dyna gewch chi gan Yucatan. Mae’r gân “Malu Trwsio Chwalu Uno” yn chwyddo’n rhyfeddol gyda’r ffidlau’n symffonig chwarae’u tremolo fel rhagarweiniad i’r gitar ddaw i’r fei wedi tair munud a hanner. Gitarau trwm rhythmig yn datblygu’r gân syml hon yn epig enfawr. Wedi rhai munudau sy’n atgoffa dyn o Pax gan Brith Gof, daw gwychder Yucatan i’r amlwg gyda’r “Un Cyfle” anthemig sydd yn nodweddiadol o’r Polyphonic Spree ar eu gorau. Ymddengys dylanwad Giant Sands yn drwm iawn ar “Cyrn Pen” gyda’r llais yn ysgytwol ar dro, fel na chlywyd erioed o’r blaen ar record Gymraeg. Y geiriau’n ddeifiol, y gerddoriaeth yn soffistigedig, er yn syml, a’r cyfanwaith yn esgyn uwchlaw cerddoriaeth gyfoes. Yng nghwmni y Lambchop Cymraeg daw’r cyfan i ben gyda “Cwsg”. Trac fer isel ei hysbryd, ond calonogol ei naws. “Ond mi wela i di yn y gwanwyn” meddai Dilwyn drwy’r reverb i godi’n calonnau ni oll. Cwsg tymhorol gaeafol yn unig i efelychu rhyw afiechyd SAD neu’i gilydd a geir yn nghanol y feiolinau’n atseinio yn glo naturiol ar ddrws Yucatan yn cau. Dwi’n ymfalchïo yn y sin Gymraeg newydd yma sydd ddim yn cystadlu ag unrhyw sin mewn iaith arall, ond

Bydd y sengl 'Un Cyfle' allan ar Label Slacyr ar y 23ain o Fis Ebrill 2007.Bydd posib lawrlwytho'r sengl ar kimberleyrecords.co.uk.Hefyd bydd nifer cyfanedig o'r sengl ar gael ar CD wedi ei rhifo gyda gwaith celf unigryw i bob un.Mae 'Un Cyfle' yn cynnwys y tracsie 'Un Cyfle' a dau drac newydd sef 'Dau' ac 'Y Freuddwyd'.Bydd y CD's ar gael ar Daith Tafod Cymdeithas yr Iaith.
You can download Yucatan's first single 'Un Cyfle' from kimberleyrecords.co.uk from the 23/4/07.
bydd nifer cyfyngedig o sengl "un cyfle" yucatan ar gael ar daith tafod gyda gwaith celf unigryw i bob un ac wedi ei rhifo.
mae "un cyfle" yn cynnwys y tracie 'un cyfle','dau' ac 'y freuddwyd'.
£2 CD SLAC0012
bydd "un cyfle" hefyd ar gael i lawrlwytho ar y 23/4/07.
diolch a welai di ne'
you can buy yucatan's first single "un cyfle" at any of cymdeithas yr iaith's taith tafod gigs
£2 on CD SLAC0012
3 track numbered with original artwork 4 each cd
Mae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn o gyhoeddi mai Cowbois Rhos Botwnnog fydd y prif fand ar ail Daith Tafod sydd i’w chynnal ym mis Ebrill. Bydd Yucatan a Mr Huw hefyd yn ymuno â nhw wrth iddynt ymweld â phob cwr o Gymru.
Hon fydd yr ail daith o’r fath i’w threfnu gan y Gymdeithas yn dilyn llwyddiant y gyntaf yn Nhachwedd 2006. Y bwriad yw cynnal gigs o safon ymhob rhan o’r wlad a chynyddu poblogrwydd y bandiau sy’n teithio yn y rhannau hynny.
Eleni, fe enillodd Cowbois Rhos Botwnnog wobr Roc a Pop C2 am y ‘Grŵp a Ddaeth i Amlygrwydd’. Mae eu harddull unigryw o gerddoriaeth roc-gwledig wedi eu gwneud yn boblogaidd iawn gyda dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg a dywedodd cydlynydd Taith Tafod, Owain Schiavone, “maen nhw eisoes yn un o fandiau newydd mwyaf poblogaidd Cymru felly rydym ni am geisio adeiladu ar hyn a’u helpu i gyrraedd y lefel nesaf.” Fe fydd y label newydd Sbrigyn Ymborth yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Mai.
Yn ogystal, bydd label Slacyr yn rhyddhau sengl gyntaf Yucatan ym mis Mai. Dywedodd Schiavone, “mae cerddoriaeth Yucatan yn wirioneddol hyfryd ac mae’r daith yn rhoi cyfle iddynt berfformio’n fwy ar lwyfan. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gael Mr Huw ar y daith hefyd gan ei fod ei gerddoriaeth mor glyfar a hwyliog.”
Mae dau leoliad wedi eu hychwanegu at yr ail daith a bydd yn ymweld â Dinbych, Porthmadog, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd dros gyfnod o fis. Mae’r daith yn dechrau yng Nghlwb Rygbi Dinbych ar 12fed Ebrill ac yn dod i ben yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 4ydd o Fai.